Hysbysiad Preifatrwydd |
Privacy Notice |
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn trin unrhyw ddata personol a ddarperir i ni, yr amodau cyfyngedig y gallwn ei ddatgelu i eraill a sut rydym yn ei gadw’n ddiogel, o dan Reoliad (UE) 2016/679, a adwaenir hefyd fel y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
1. PWY YDYM NI Rhwydwaith daearyddol o Institute of Translation and Interpreting y DU yw ITI Cymru Wales, y gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr, cyfieithwyr ar y pryd a busnesau gwasanaethau ieithyddol sy’n ymarfer. Ei nod yw cefnogi cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad i Gymru. 2. PA FATH O WYBODAETH A GESGLIR A PHAM Rydym yn casglu, storio ac yn defnyddio data personol at ddibenion prosesu eich ymholiadau, gweinyddu eich aelodaeth o’r rhwydwaith a chyfathrebu â chi ynghylch digwyddiadau yr ydym ni a’n sefydliadau partner yn eu trefnu. Nid ydym yn trosglwyddo eich data personol i drydydd parti heb eich caniatâd. 3. SAIL GYFREITHIOL Rydym yn cadw data am aelodau ein rhwydwaith er buddiannau dilys a phan nad yw’r buddiannau hyn yn drech na hawliau aelodau neu pan fo gennym gydsyniad i wneud hynny, yn unol ag Erthygl 6(1)(a) y GDPR. 4. PA DDATA PERSONOL A GESGLIR Mae’r data personol a gesglir yn cynnwys eich enw, rhif ffôn, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhywedd, cymwysterau, ieithoedd yr ydych yn gweithio â nhw a gradd eich aelodaeth ITI. 5. AM BA HYD YR YDYM YN CADW EICH DATA PERSONOL Bydd data sy’n ymwneud ag aelodau sydd wedi talu’n llawn yn cael ei gadw drwy gydol cyfnod yr aelodaeth, neu am y cyfnod amser a nodir i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. 6. RHANNU EICH DATA PERSONOL Nid ydym yn defnyddio eich data personol at ddibenion marchnata. Bydd eich gwybodaeth hefyd yn hygyrch i aelodau eraill o’r rhwydwaith. 7. EICH HAWLIAU A RHWYMEDIGAETHAU Rydym yn cymryd pob cam rhagofalus i warantu diogelwch, cywirdeb a chyfrinachedd data personol i gydymffurfio â’r GDPR, mewn perthynas â phrosesu data personol a symudiad rhydd data o’r fath. Mae’r hawl gennych i gyrchu, cywiro, gwaredu neu gyfyngu’r data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi, yn unol â’r rheoliad UE a nodir uchod. Anfonwch eich cais yn uniongyrchol at y Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod, a byddwn yn gweithredu cyn gynted â phosibl, o fewn un mis o ddyddiad eich cais ar y mwyaf. Os nad ydych chi’n fodlon ar yr ymateb, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), y corff goruchwylio yn y DU. Noder nad yw ITI Cymru Wales wedi’i gofrestru fel rheolydd data gyda’r ICO oherwydd mae’n sefydliad nid-er-elw sy’n gymwys am esemptiad. 8. MESURAU DIOGELWCH Rydym yn cymryd pob cam rhagofalus i warantu bod eich data personol yn cael ei ddiogelu. Diweddariadau i gyfrifiaduron a dyfeisiau: Caiff y cyfarpar a ddefnyddir i storio a phrosesu data personol ei ddiweddaru mor aml â phosibl. Maleiswedd: Gosodir meddalwedd gwrthfeirysau ar y cyfarpar a ddefnyddir i storio a phrosesu data personol, i atal dwyn neu ddinistrio’r wybodaeth hon. Caiff y feddalwedd gwrthfeirysau hon ei diweddaru’n rheolaidd. Waliau tân: Mae waliau tân ar waith ar bob dyfais a ddefnyddir i storio neu brosesu data personol, i osgoi mynediad trydydd parti anghyfreithlon o bell. Cadw copi wrth gefn: Cedwir copi wrth gefn o ddata personol ar wasanaeth cwmwl diogel, fel y gellir adfer data personol os yw’n cael ei golli neu ei ddifrodi. Mesurau technegol: Mae’r holl systemau electronig a ddefnyddir i storio a phrosesu data personol wedi’u diogelu gan gyfrinair. 9. CWCIS Fel sawl gwefan arall, rydym yn defnyddio cwcis i gasglu data. Darnau bach o wybodaeth yw cwcis a anfonir i’ch cyfrifiadur (cyfrifiaduron, ffonau clyfar neu lechi) a’u storio ar eich gyriant caled wrth i chi bori. Fe’u defnyddir i gofio pryd y mae eich cyfrifiadur neu ddyfais yn cyrchu’r wefan hon, ei helpu i weithredu’n effeithiol a darparu gwasanaeth mwy personol. Os nad ydych yn dymuno defnyddio cwcis, gallwch analluogi’r dewis hwn yng ngosodiadau eich porwr rhyngrwyd. Gellir tynnu cwcis o’ch cyfrifiadur yn hawdd hefyd. 10. NODWEDDION CYFRYNGAU CYMDEITHASOL A DOLENNI I WEFANNAU ERAILL Mae’r wefan hon hefyd yn cynnwys dolenni cyfryngau cymdeithasol i blatfformau cyfryngau cymdeithasol trydydd parti fel Twitter. Os a phryd y mae data’n cael ei gasglu fel hyn, caiff y prosesu ei lywio gan bolisi preifatrwydd y platfformau cyfryngau cymdeithasol priodol. Mae’n bosibl y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill a reolir gan sefydliadau eraill. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefan ITI Cymru Wales yn unig, felly rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar unrhyw wefannau eraill yr ydych yn eu hymweld â nhw. Ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd ac arferion gwefannau eraill hyd yn oed os ydych chi’n eu cyrchu drwy ddefnyddio dolenni o wefan ITI Cymru Wales. 11. SWYDDOG DIOGELU DATA Gallwch gysylltu ag ITI Cymru Wales yn ei rôl fel Rheolydd Data’r data o dan ei bwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau, yn unol â’r RHEOLIAD CYFFREDINOL AR DDIOGELU DATA (UE) 2016/679, a adwaenir hefyd fel y GDPR. Y Swyddog Diogelu Data (DPO) ar gyfer ITI Cymru Wales yw Lloyd Bingham, y gallwch gysylltu ag ef drwy anfon e-bost at [email protected]. |
This privacy notice explains how we collect and treat any personal data provided to us, the limited conditions under which we may disclose it to others and how we keep it secure, in view of Regulation (EU) 2016/679, also known as the General Data Protection Regulation (GDPR).
1. WHO WE ARE ITI Cymru Wales is a geographical network of the UK Institute of Translation and Interpreting, the professional association for practising translators, interpreters and language services businesses. Its aim is to support professional translators and interpreters living in Wales or with a connection to Wales. 2. WHAT TYPE OF INFORMATION IS COLLECTED & WHY We collect, store and use personal data for the purposes of processing your enquiries, administering your membership of the network and communicating with you regarding events which we and our partner organisations organise. We do not pass your personal data on to third parties without your permission. 3. LEGAL BASIS We hold data on our network members for legitimate interests and when these interests do not override members’ rights or we have consent to do so, pursuant to Article 6(1)(a) of the GDPR. 4. WHICH PERSONAL DATA IS COLLECTED Personal data collected includes your name, telephone number, address, email address, gender, qualifications, working languages and ITI membership grade. 5. HOW LONG WE KEEP YOUR PERSONAL DATA Data relating to fully paid-up members will be retained throughout the membership period, or for the length of time stipulated to comply with legal obligations. 6. SHARING YOUR PERSONAL DATA We do not use your personal data for marketing purposes. Your information will also be accessible to other members of the network. 7. YOUR RIGHTS AND OBLIGATIONS We take all precautionary steps to guarantee the security, integrity and confidentiality of personal data in compliance with the GDPR, in relation to the processing of personal data and the free movement of such data. You are entitled to access, rectify, erase or restrict the personal data that we hold about you, in accordance with the above-mentioned EU regulation. Please send your request directly to the Data Protection Officer using the contact email address below, and we will act upon this as soon as possible, within a maximum of one month from the date of your request. If you are not satisfied with the response, you have the right to lodge a complaint with the Information Commissioner’s Office (ICO), the supervisory body in UK. Please note that ITI Cymru Wales is not registered as a data controller with the ICO on the grounds that it is a not-for-profit organisation that qualifies for exemption. 8. SECURITY MEASURES We take all possible precautionary measures to guarantee that your personal data is safeguarded. Updates to computers and devices: The equipment used for storing and processing personal data is updated as frequently as possible. Malware: Anti-virus software is installed on the equipment used for storing and processing personal data, to prevent the theft or destruction of this information. This anti-virus software is regularly updated. Firewall: Firewalls are in place on all devices used for storing or processing personal data, to avoid remote unlawful third-party access. Back-up: Personal data is backed up to a secure cloud service, so that personal data can be recovered in the event of loss or damage. Technical measures: All electronic systems used for storing or processing personal information are password protected. 9. COOKIES Like many other websites, we use cookies to collect data. Cookies are small pieces of information sent to your computer (PCs, smart phones or tablets) and stored on your hard drive as you browse. They are used to remember when your computer or device accesses this website, and help it to operate effectively, and deliver a more personalised service. If you do not wish to use cookies, you may disable this option in your internet browser settings. Cookies can also be removed easily from your computer. 10. SOCIAL MEDIA FEATURES & LINKS TO OTHER WEBSITES This website also includes social media links to third-party social media platforms such as Twitter. If and when data is collected in this way, its processing is governed by the privacy policy of the respective social media platforms. Our website may contain links to other websites run by other organisations. This privacy notice applies only to the ITI Cymru Wales website, so we encourage you to read the privacy statements on any other websites you visit. We cannot be responsible for the privacy policies and practices of other sites even if you access those using links from the ITI Cymru Wales website. 11. DATA PROTECTION OFFICER You may contact ITI Cymru Wales in its capacity as Data Controller of the data under its powers, duties and liabilities, in accordance with the GENERAL DATA PROTECTION REGULATION (EU) 2016/679, also known as the GDPR. The Data Protection Officer (DPO) for ITI Cymru Wales is Lloyd Bingham, who can be contacted at [email protected]. |